Cyfrwng ysbrydion

Yn ysbrydegaeth, person sy'n honni ei fod yn gallu cyfrwng i ysbrydion y meirw gyfathrebu â'r byw yw cyfryngwr(aig) ysbrydion[1] neu mediwm.[2] Yn aml tybir i'r cyfryngwr wneud hyn mewn perlewyg tra'n tywys seans. Honnir weithiau i ysbrydion ymddangos ar ffurf sylwedd o'r enw ectoplasm sy'n archwysu o gorff y cyfryngwr.[3] Nid oes tystiolaeth dros ddoniau honedig cyfryngwyr ysbrydion, a phrofir i nifer o gyfryngwyr weithio drwy ddefnyddio twyll.

  1. Geiriadur yr Academi, [medium].
  2.  mediwm. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 16 Tachwedd 2014.
  3. (Saesneg) medium (occultism). Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 17 Tachwedd 2014.

Developed by StudentB